Gallwch ddefnyddio eich profiadau uniongyrchol, personol ym maes iechyd meddwl i helpu siapio, cynllunio a chyflenwi gwasanaeth iechyd sy’n blaenoriaethu pobl.
Prosiect a Llyfr Straein Dyfodol DIY 2012 – 2014
Rhwng 2012-2014 roedd y prosiect straeon Dyfodol DIY ar y gweill, yn dod â phobl at ei gilydd oedd â phrofiad bywyd o drallod meddyliol a staff y prosiect. Buon nhw’n gweithio ochr yn ochr i wrando ar a chofnodi straeon pobl ledled Powys, ac arweinidd hyn at gyhoeddu llyfr clawr caled gyda’r teitl “it’s the inside that matters”.
Mae’r e-lyfr ar gael nawr … cliciwch ar y llun isod i gael cip arno!
Prosiect Hanesion Iechyd Meddwl 2007-2011
Astudiaeth ymchwil weithredol gyfranogol oedd y brosiect hwn a barodd am bedair blynedd; darn o waith ar y cyd oedd a hwyluswyd gan y gawsanaethau iechyd meddwl statudol gan nyrs reolwr iechyd meddwl oedd yn gweithio ochr yn ochr â chwe unigolyn; newidiodd eu statws nhw o fod yn ‘ddefnyddwyr gwasanaeth’ i gyd-ymchwilydd dros y cyfnod hwn. Prif ffocws yr astudiaeth oedd y chwe ‘ymchwilydd oedd yn ddefnyddwyr gwasanaeth’ yn cyfweld â 31 o bobl oedd â diagnosis ar ypryd o afiechyd meddwl difrifol a pharhaus oedd yn derbyn mewnbwn gan y gwasanaethau iechyd meddwl statudol. Cafodd yr holl gyfweliadau eu cofnodi ar ffurf glywedol a’u trawsysgrifio gair am air. Wedyn cafodd y trawsgrifiadau eu mapio a’u dadansoddi gan y tîm ymchwil gan ddefnyddio dadansoddiad ffenomolegol dehongliadol (IPA). Er mwyn galluogi pobl i ymgymryd â’r rolauhyn, roedd yr astudiaeth yn cynnwys proses o gyfweld a phenodi ymchwilwyr oedd yn ddefnyddwyr gwasanaeth, i’w ddilyn gan raglen o weithdai hyfforddi, trefnu cymorth ar sail grwp/cyfoedion o ran goruchwyliaeth a thrafod a hwyluswyd gan y nyrs reolwr iechyd meddwl trwy gydol y rhaglen.
Gellir darllen mwy am y prosiect yma ac mae’r papur ymchwil llawn ar gael fan hyn.
Rhaglen Astudiaeth Achos 1000+ Bywyd 2012. Partneriaeth gyda chleifion trwy straeon er gwella.
Cyflwyniad ar y cyd am y prosiect ymchwil.
Sylwadau pobl am gymryd rhan ...
“Rydym wedi newid o fod yn ddefnyddwyr gwasanaeth i fod yn ymchwilwyr, hunaniaeth gadarnhaol sydd wedi ein hysgogi; ie, rydym yn ddefnyddiol, mae gennym bwrpas, rydym yn cael ein gwerthfawrogi ai helpu llunio darn o waith anhygoel; i lawer ohonom, rydym wedi magu hyder eto, ynghyd â brwdfrydedd a diben, yn ogystal â’r teimlad anhygoel o deimlo’n falch i fod yn rhan o brosiect mor ddewr. Inni, mae’r profiad o fod yn rhan o dîm, rhannu, cefnogi, darganfod ac yn bwysig iawn, chwerthin gyda’n gilydd, wedi bod yn hynod gadarnhaol.”
“Gobeithio y bydd y weithred o adrodd ein straeon yn gwneud ychydig o wahaniaeth; dylai gwneud hynny; dyna’r peth pwysicaf amdanom”.
Rhannu'r hyn a ddysgwyd o'r prosiectau straeon
Straeon er Gwelld – Cyfres Hyfforddi 1000 + Bywyd – gwybodaeth ym maes hyfforddiant i gefnogi sefydliadau’r GIG yng Nghymru i ledu’r defnydd o straeon i wella. Mwy fan hyn.
Rwhydwaith Adfer yr Alban. Gall dysgu am feddyliau pobl eraill a straeon adfer ysbrydoli gobaith a herio rhagdybiaethau. Fe welwch nifer o straeon a gyflwynwyd fan hyn.