Ychydig o hanes

Seiliwyd modelau cynnar o ran trallod meddyliol ar y theori fod anghydbwysedd cemegol yn yr ymennydd yn arwain at symptomau salwch, a’i fod yn bosibl cywiro’r rhain gyda meddyginiaeth. Er i’r theori gael ei ystyried yn annigonol mor gynnar â’r 1980au canol, mae wedi parhau fel sail tu ôl i ddiagnosis a dulliau trin llawer o gyflyrau megis sgitsoffrenia ac iselder.

Mae strategaethau goroesi megis hunan-anafu, clywed lleisiau ac “anhwylderau” bwyta yn cael eu barnu’n aml gan ddoethineb prif ffrwd fel “symptomau” “afiechyd meddyliol” yn hytrach nag ymateb naturiol a normal i brofiadau anodd bywyd.

Mad in America a Mad yn y DU

Mae’r awdur Robert Whitaker, sylfaenydd Mad in America, wedi ysgrifennu ac wedi siarad (ar y cyd ag eraill) am chwilio tu hwnt i ddulliau triniaeth meddygol. Mae’n herio’r model sydd ohoni mewn perthynas â’r clefyd fel dull effeithiol i drin trallod meddyliol, gan ddweud nad yw wedi gwireddu’r canlyniadau a ddisgwyliwyd ac mae wedi methu creu tystiolaeth wyddonol ei fod yn gwella iechyd meddwl y cyhoedd yn America.

Roedd Sue Newham, Swyddog Ymgysylltu ein tîm wedi cwrdd â Robert mewn cynhadledd ar thema ‘Compassionate Mental Health’ yn Henffordd yn 2019 ac ysgrifennodd am ei phrofiad yma.

Bellach mae prosiect Mad in the UK ar y gweill a’i nod yw “gwasanaethu fel catalydd i ailfeddwl o’r sylfeini am theori ac arferion ym maes iechyd meddwl yn y DU a hyrwyddo newid cadarnhaol.”

Trawma

Mae’r ffaith fod trawma’n cyfrannu ar lefel eang at drallod meddyliol yn cael ei dderbyn fwyfwy erbyn hyn, ac mae dulliau gwaith newydd yn cael eu datblygu’n raddol, a’u cyflwyno i gefnogi pobl ym Mhowys, er ar y cyfan, y model meddygol sy’n llywyddu o hyd.

Dulliau anfeddygol o ran delio gyda thrallod meddyliol

Mae nifer o brosiectau wedi dangos llwyddiant wrth arfer dulliau trin anfeddygol o ran trallod meddyliol, megis: Rhwydwaith Soteria; Norway Medication Free Initiative; a model Open Dialogue a ddatblygwyd yn y Ffindir.

Open Dialogue

Model gofal iechyd meddwl arloesol yw Open Dialogue sy’n golygu dull o weithio a seilir ar rwydwaith teulu a chymdeithasol cyson, lle cynhelir triniaeth trwy gyfarfodydd system gyfan / rhwydwaith, sydd bob tro’n cynnwys y claf.

Mae’n golygu cwrdd â phobl sy’n cael argyfwng iechyd meddwl o fewn 24 awr, ac wedi hynny’n ddyddiol nes i’r argyfwng cael ei ddatrys. Y bwriad yw osgoi anfon y claf i’r ysbyty, ynghyd â’r stigma sy’n gysylltiedig â hynny. Yn lle, cynhelir cyfarfodydd yng nghartref yr unigolyn sy’n ceisio cymorth. Mae’r dull yn osgoi defnyddio meddygiaeth gwrthseicotig ble bynnag fo’n bosibl.

Cafodd dull o weithio Open Dialogue ei ddatblygu yn y Ffindir gan aakko Seikkula a’i gydweithwyr yn y 1980au. Gwnaethpwyd ffilm am y dull gan y gwneuthurwr ffilm Daniel Mackler: OPEN DIALOGUE: an alternative Finnish approach to healing psychosis.

Dros flynyddoedd diweddar, cynhaliwyd nifer o brosiectau peilot Open Dialogue yn y DU gan gynnwys the ODDESSI trial yn Lloegr.  Hefyd mae hyfforddiant yn nulliau gwaith Open Dialogue ar gael gan nifer o ddarparwyr yn y DU

Yr Athro Peter Kinderman yn trafod sut gall pob un ohonom helpu ein hunain i fyw bywyd hapusach, iachach

“Yn aml, mae pobl yn cael eu beio am eu ffordd o feddwl. Mae’r label sarhaus o ‘anhwylder personolaeth’ er enghraifft yn llwyddo i labelu pobl fel ‘sâl’ a’u beio yr un pryd am eu ffyrdd o feddwl.”

Mae’r Athro Peter Kinderman, Cyfarwyddwr Sefydliad Seicoleg, Iechyd a Chymdeithas Prifysgol Lerpwl yn ysgrifennu am yr hyn y gallwn ei wneud i arwain bywydau hapusach, iachach.  Mwy fan hyn.
Interview with Psychologist Lucy Johnstone

Rhan o gyfres o gyfweliadau ar Ddyfodol Iechyd Meddwl ar wefan Psychology Today. Mae Lucy yn trafod y posibilrwydd o  “ddim-diagnosis” a  fforwmiwleiddiad seicolegol. Mwy fan hyn.
Mae cyfweliadau eraill o’r Gyfres o gyfweliadau ar Ddyfodol Iechyd Meddwl ar gael fan hyn.

O afiechyd meddwl i fodel cymdeithasol o wallgofrwydd a thrallod

Adroddiad sy’n ystyried y stigma a’r dull o weithio annefnyddiol y model meddygol sy’n llywyddu dulliau meddwl proffesiynol a chyhoeddus. Gyda chyfraniadau gan ddefnyddwyr gwasanaeth / goroeswyr iechyd meddwl. Cefnogir gan Sefydliad Joseph Rowntree, rhwydwaith NSUN ar gyfer iechyd meddwl a Shaping our Lives – sefydliad, melin drafod a rhwydwaith cenedlaethol annibynnol dan reolaeth defnyddwyr. Mwy fan hyn.

Seiciatreg: peryglon y Diagnosis Seiciatrig....

Trawma, Profiadau Somatig a Peter A. Levine PhD

Safbwyntiau Critigol ar y Model Biofeddygol o Drallod Meddyliol: Achosion neu ffactorau cyfrannol