GIG 111 Pwsyo 2
I gael cymorth iechyd meddwl ar frys FFONIWCH 111 a phwyso RHIF 2
Mae’r gwasanaeth ar gael i bobl o bob oed, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ym mhob rhan o Gymru, i sicrhau bod pobl sydd angen cymorth yn gallu cael gafael arno’n gyflym pan fydd ei angen arnynt fwyaf.
Os ydych chi eisiau siarad â rhywun ar frys am eich iechyd meddwl, neu os ydych chi’n poeni am aelod o’r teulu, ffoniwch GIG 111 a dewis opsiwn 2 i gael eich cysylltu’n uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl yn eich ardal.
Gallwch ffonio am ddim o linell ffôn neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych gredyd ar ôl.
Ceir manylion llinellau cymorth eraill ar ein tudalennau gwe:
Llinellau Cymorth Cenedlaethol neu Cymorth Brys
Cymorth i Blant a Phobl Ifanc dros y Nadolig
CYM Support for Children and Young People over Christmas (2)
Oriau agor Elusennau iechyd meddwl Powys
Ar gau gyda’r nos ar 22 Rhagfyr ac yn ailagor ar 27 Rhagfyr, yna ar gau eto gyda’r nos ar 29 Rhagfyr ac yn ailagor ar 3 Ionawr 2024.
Ar gau rhwng 22 Rhagfyr a 2 Ionawr.
Bydd Mind Aberhonddu a’r Cylch ar gau ar benwythnosau a Gwyliau Banc (Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan).
Ar gau dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, diwrnod olaf dydd Gwener 22 Rhagfyr ac yn ailagor ddydd Mawrth 2 Ionawr 2024.
Bydd Credu ar gau ar ddyddiadau Gŵyl y Banc a hefyd 27ain i 29ain Rhagfyr, yn gynwysedig.
Gwasanaeth Gwybodaeth Iechyd Meddwl Powys
Ar gau o 4pm ddydd Gwener 22 Rhagfyr tan 9am ddydd Mawrth 2 Ionawr 2024.