Ymddiheurwn nad yw rhai tudalennau o’r wefan Gymraeg wedi eu cwblhau eto. Mae’r rhain yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd a byddant yn fyw yn fuan iawn.
We apologise that some pages of the Welsh site are not yet complete. These are currently under construction and will be live very soon.

Darllen mwy o wybodaeth ar sut y caiff gwasanaethau iechyd meddwl y GIG eu cynllunio ym Mhowys.

Partneriaeth Cynllunio a Datblygu Iechyd Meddwl Powys

Mae Partneriaeth Cynllunio a Datblygu Iechyd Meddwl Powys yn gweithio i ddarparu gwasanaethau gofal integredig, uchel eu hansawdd er mwyn gwneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl sydd eu hangen. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys sefydliadau a chynrychiolwyr unigol ar ran pobl sy’n defnyddio gwasanaethau, ac unigolion agos atynt. Mae’r grwp yn hyrwyddo iechyd meddwl ac emosiynol a llesiant i bawb.

Mae’r bartneriaeth yn gyfrifol am gefnogi ac adolygu cynnydd wrth weithredu:

  • Y cynllun cyflenwi a gytunwyd ar gyfer Powys: “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl (2019-2022) sy’n gweddu i Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
  • Blaenoriaethau Iechyd meddwl sy’n rhan o ‘Strategaeth Iechyd a Gofal Powys’ a’r Cynllun Ardal.

Gweler Cylch Gorchwyl y grwp fan hyn.

I ddysgu mwy am sut rydym yn recriwtio dinasyddion sydd â phrofiad o Wasanaethau Iechyd Meddwl Powys i wasanaethu ar y bwrdd, gweler y ddolen hon. I ddarllen mwy am rôl unigolion ar y bartneriaeth cliciwch fan hyn.

Adroddiadau strategol a gwybodaeth am Bowys 

Gweler dolen at yr adroddiadau strategol a gwybodaeth sy’n berthnasol i Bowys ac Iechyd Meddwl fan hyn.

Cofnodion cyfarfodydd

Gellir lawrlwytho a darllen cofnodion cyfarfodydd fan hyn:

Mawrth 2022
Medi 2021
Mehefin 2021
Mawrth 2021
Rhagfyr 2020
Medi 2020
Mehefin 2020
Rhagfyr 2019

Diweddariadau misol

Gellir darllen a lawrlwytho’r diweddariadau diweddaraf gan Bartneriaeth Cynllunio a Datblygu Iechyd Meddwl Powys yma:

Rhagfyr 2021
Medi 2021
Mehefin 2021
Mawrth 2021
Rhagfyr 2020
Medi 2020
Mehefin 2020