Ymddiheurwn nad yw rhai tudalennau o’r wefan Gymraeg wedi eu cwblhau eto. Mae’r rhain yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd a byddant yn fyw yn fuan iawn.
We apologise that some pages of the Welsh site are not yet complete. These are currently under construction and will be live very soon.

Cymorth plant a phobl ifanc

Ydych chi'n mynd drwy gyfnod anodd ar hyn o bryd, yn teimlo wedi eich gorlethu ychydig ac yn meddwl tybed beth i'w wneud? Hoffech chi gael rhywun i'ch helpu, i'ch arwain trwy'r cyfnod anodd hwn yn eich bywyd, rhywun a fydd yn gwrando, nid yn barnu, ac yn eich helpu i benderfynu pa gamau i'w cymryd nesaf?

Mae llawer o sefydliadau ar gael yng Nghanolbarth Cymru a all helpu.

Action for Children – elusen plant

Mae ‘Action for Children’ yn amddiffyn a chefnogi plant a phobl ifanc, gan ddarparu gofal a chymorth ymarferol ac emosiynol. Maent yn sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed, ac yn ymgyrchu i ddod â gwelliannau parhaol i’w bywydau.

Ffôn: 0300 123 2112, 9yb – 5yp Llun - Gwener

Ymweld â’r Wefan

Adfeiad – Gwasanaeth Therapiwtig acYmlyniad Cadarnhaol i Bobl Ifanc

Mae’r Gwasanaeth Therapiwtig ac Ymlyniad Cadarnhaol i Bobl Ifanc Powys yn darparu cefnogaeth hanfodol i bobl ifanc ar draws sir Powys. Darparwn gefnogaeth therapiwtig sy’n ystyriol o drawma i bobl ifanc a theuluoedd sy’n profi anawsterau gyda phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrawma.

Ffôn: 01982 448 090

Ymweld â’r Wefan

Adferiad – Pobl ifanc Powys yn camddefnyddio sylweddau

Mae Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Pobl Ifanc Powys (YPSMS) yn rhan o ystod o wasanaethau a gynigir i oedolion a phobl ifanc ym Mhowys sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau. Ym Mhowys, mae Adferiad yn gweithio mewn partneriaeth â Kaleidoscope, gwasanaeth camddefnyddio sylweddau sefydledig, i ddarparu’r gwasanaethau hyn a gweithredu’r YPSMS.

Ffôn: 0300 777 2258

Ymweld â’r Wefan

Area 43 – cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc

Gwasanaethau cwnsela wyneb yn wyneb ac ar-lein. Am ddim, saff and cymorth dienw i blant a phobl ifanc.


Ymweld â’r Wefan

Beat Cymru – elusen anhwylderau bwyta

Mae’r elusen yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth yng Nghymru i bobl ifanc ag anhwylderau bwyta a’u teuluoedd.

Ffôn: 0808 801 0433
Ebost: Waleshelp@beateatingdisorders.org.uk

Ymweld â’r Wefan

Canolfan y Windfall – therapi i blant a phobl ifanc

Elusen sy’n cefnogi iechyd emosiynol a meddyliol plant a theuluoedd ym Mhowys – yn cynnig cwnsela a therapïau chwarae ymhlith eraill.

Ffôn: 01597 829346
Ebost: admin@windfallcentre.co.uk

Ymweld â’r Wefan

Childline – llinell gymorth i blant a phobl ifanc

Gwasanaeth preifat a chyfrinachol am ddim lle gallwch chi siarad am unrhyw beth – i blant a phobl ifanc hyd at eu pen-blwydd yn 19 oed. Mae Childline yma i chi ar-lein, ar y ffôn, unrhyw bryd.

Ffôn: 0800 1111

Ymweld â’r Wefan

Frank – cymorth o amgylch cyffuriau

Siaradwch i Frank. Gwybodaeth onest am gyffuriau

Ffôn: 0300 1236600

Ymweld â’r Wefan

Meic – llinell gymorth i blant a phobl ifanc

Angen gwybodaeth? Angen cyngor? Angen cefnogaeth? Meic yw’r llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.

Ffôn: 080880 23456

Ymweld â’r Wefan

Mind Aberhonddu a’r Cylch – elusen iechyd meddwl de Powys

Mae’r elusen iechyd meddwl hon yn gweithio gydag ysgolion i gefnogi plant a phobl ifanc.

Ffôn: 01874 611529
Ebost: Info@breconmind.org.uk

Ymweld â’r Wefan

Mind Canolbarth & Gogledd Powys – elusen iechyd meddwl

Mae’r elusen iechyd meddwl yma’n cynnig Grŵp Ieuenctid a gwasanaethau eraill i gefnogi plant a phobl ifanc.

Ffôn: 01597 824411
Ebost: admin@mnpmind.org.uk

Ymweld â’r Wefan

Papyrus – atal hunanladdiad

Papyrus, Atal Hunanladdiad Ifanc, yw’r elusen yn y DU sy’n ymroddedig i atal hunanladdiad a hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a lles emosiynol pobl ifanc. Creda Papyrus na ddylai unrhyw berson ifanc orfod cael trafferth ar ben ei hun i feddwl am hunanladdiad.

Ffôn: 0800 068 4141, 9yb – canol nos bob dydd o’r flwyddyn

Ymweld â’r Wefan

Ponthafren – elusen iechyd meddwl Gogledd Powys

Mae gan yr elusen iechyd meddwl yma prosiectau’n cefnogi plant a phobl ifanc.

Ffôn: 01686 621586
Ebost: admin@ponthafren.org.uk

Ymweld â’r Wefan

Rekindle – Gogledd Powys – elusen plant a phobl ifanc

Cael pobl ifanc i siarad am eu hiechyd meddwl. Gweledigaeth Rekindle yw adferiad llwyr o iechyd meddwl trwy ymyrraeth cynnar, trwy wrando, trwy siarad, a thrwy weithredu. Mae gwasanaethau Rekindle ar gael yn Sir Drefaldwyn (Gogledd Powys).

Ffôn: 01686 722222

Ymweld â’r Wefan

Samaritans – llinell gymorth gwrando

Beth bynnag rydech chi’n mynd drwy, bydd Samaritan yn ei wynebu gyda chi. Cymorth i unrhyw un sy’n profi gofid emosiynol.

Ffôn: 116 123 - 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn

Ymweld â’r Wefan

Stonewall Young Futures – cymorth LHDT+

Hwb yw hwn i bob person ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol, ‘queer’, cwestiynu ac ‘ace’, sy’n meddwl am eu camau nesaf.


Ymweld â’r Wefan

Young Minds – elusen iechyd meddwl i blant a phobl ifanc

P’un a ydych am ddeall mwy am sut rydych yn teimlo a dod o hyd i ffyrdd o deimlo’n well, neu os ydych am gefnogi rhywun sy’n cael trafferth, gall Young Minds helpu.

Ffôn: Neges destun YM 85258 am ddim, cefongaeth 24/7.

Ymweld â’r Wefan

Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)

Mae hwn yn wasanaeth a ddarperir i helpu plant a phobl ifanc sy'n cael trafferth wirioneddol gyda'u hiechyd meddwl gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys (y GIG).

Mae CAMHS Powys yn cynnig asesiad a thriniaeth i blant a phobl ifanc, hyd at eu pen-blwydd yn 18 oed, sydd â phroblemau iechyd meddwl neu anawsterau iechyd emosiynol, neu y credir bod ganddynt broblemau iechyd meddwl.

Mae’n rhaid i blant a phobl ifanc gael eu cyfeirio at y gwasanaeth hwn gan un o’r canlynol:

• Athrawon
• Swyddogion Lles Addysg
• Gweithwyr Ieuenctid
• Timau Iechyd Meddwl Cymunedol i Oedolion
• Sefydliadau Gwirfoddol.
• Gwasanaethau Eiriolaeth
• Therapyddion Pediatrig

Mae yna hefyd dîm o'r enw tîm Ysgolion Mewn Cyrhaeddiad CAMHS Powys sy'n gweithio mewn ysgolion i gefnogi plant a phobl ifanc. Gallwch ddarllen mwy am hyn yma.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed – De Powys

Cyfeiriad: Ysbyty Bronllys CAMHS De Powys
Heol Cerrigochion
Bronllys
Powys

LD3 7NS
Ffôn: 01874 615662

Ymweld â’r Wefan

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed – Gogledd Powys

Cyfeiriad: CAMHS Gogledd Powys
Ynys Y Plant
Lôn Planhigfa
Y Drenewydd
Powys
SY16 1LQ
Ffôn: 01686 617450

Ymweld â’r Wefan

SilverCloud Therapi ar-lein Ymddygiad Gwybyddol

Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) ar-lein am ddim – i bobl 16+ oed sy’n profi gorbryder, iselder neu straen ysgafn i gymedrol.

Ym mis Hydref 2022, lansiodd SilverCloud bum rhaglen hunan-atgyfeirio i helpu plant, pobl ifanc, eu rhieni a’u gofalwyr. Nod ein dwy raglen ar gyfer rhieni a gofalwyr yw eu helpu i gefnogi plant a phobl ifanc i reoli gorbryder. Gall ein tair rhaglen ar gyfer pobl ifanc helpu pobl ifanc 16-18 oed i ddeall a rheoli gorbryder a hwyliau isel.

Gall rhieni, gofalwyr a phobl ifanc 16-18 oed gofrestru ar gyfer y rhaglenni hyn ar-lein, heb fod angen eu hatgyfeirio gan feddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Cefnogi Plentyn Pryderus – ar gyfer rhieni a gofalwyr plant 4-11 oed
Cefnogi Pobl Ifanc yn eu Harddegau Pryderus – ar gyfer rhieni a gofalwyr pobl ifanc 12-18 oed
Lle oddi wrth orbryder – ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed
Lle oddi wrth hwyliau isel – ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed
Lle oddi wrth Orbryder a Hwyliau Isel – ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed

Gallwch ddarllen mwy am y rhaglenni SilverCloud ar gyfer plant, pobl ifanc, eu rhieni a’u gofalwyr – YMA.

Eiriolaeth i blant a phobl ifanc

Bydd eiriolwr yn gwrando ac yn cefnogi plentyn neu berson ifanc (hyd at 25 oed) sydd mewn gofal, yn gadael gofal, ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, sydd angen gofal a chymorth, neu’n gwneud cwyn am wasanaethau’r GIG.

Gall eiriolaeth eich helpu i:

  • cael clywed eich llais
  • gwybod a deall eich hawliau
  • cymryd rhan mewn cyfarfodydd ac adolygiadau
  • datrys pethau gyda’ch gweithiwr cymdeithasol neu ofalwr
  • gwneud cwyn

Os oes angen cymorth eiriolaeth arnoch chi yna yn y Canolbarth gallwch chi gysylltu â sefydliad o’r enw Tros Gynnal Plant.

Ebost:  midandwestwales@tgpcymru.org.uk

Rhif ffôn am ddim:  0808 168 2599

Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf ar gyfer eiriolaeth ffurfiol, beth am sgwrsio â rhiant / gwarcheidwad / athro neu weithiwr ieuenctid? Neu gallwch gysylltu â MEIC – y gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.

Fideos i blant a phobl ifanc

Papyrus - atal hunanladdiad ifanc
Young Minds - ydech chi’n cael eich bwlio?
Meic - cyffuriau, caethiwed a chael cymorth
Childline - ydech chi’n teimlo’n unig?
The Mix - tips i wella’ch hwyliau