Sir Drefaldwyn
CAMAD Prosiect Llwybrau (Machynlleth)
Gwasanaeth taro heibio ar gyfer unrhyw un sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl – o gyflyrau iselder cyffredinol i bryder, anhwylderau gorfodaeth obsesiynol i gaethiwed. Mae’n rhedeg ar ddydd Mawrth a dydd Iau rhwng 1.00 pm a 4.00 pm. Mae lolfa fach gyfforddus a chegin lle ceir rhyddid i siarad yn hollol agored am bethau sy’n bwysig ichi. Mae cerddoriaeth swynol yn chwarae, mae paned a bisgedi ar gael bob amser, ac ymhlith y gweithgareddau sydd ar gael yn y gegin mae celf a cherddoriaeth.
Ffôn: 01654 700071Ebost: jeremy@camad.org.uk
Ymweld â’r Wefan
Canolfan Estyn Allan Ponthafren yn Y Trallwng
Elusen iechyd meddwl dan arweiniad aelodau i bobl sy’n cael problemau iechyd meddwl, unigolion sy’n ynysig neu’n cael eu heithrio o safbwynt cymdeithasol, neu’r sawl sydd yn syml iawn am wneud ffrindiau newydd neu fagu sgiliau newydd. Mae’r Gymdeithas yn cynnig dull o weithio a seilir ar yr unigolyn o ran adfer. Darperir gweithgareddau i ymateb i geisiadau gan yr aelodau, a gall y rhain amrywio o sesiynau blasu mewn Sgiliau Bywyd, megis Rheoli Dicter, Meithrin Hyder a Sgiliau Cyfathrebu i ddosbarthiadau mwy artistig megis dosbarthiadau celf, crochenwaith, crefftau a Gwaith Argraffu Drypoint.
Cyfeiriad: The Armoury, Brook Street, Y Trallwng, Powys SY21 7NAFfôn: 01938 552 770
Ebost: welshpooladmin@ponthafren.org.uk
Ymweld â’r Wefan
Mind Canol a Gogledd Powys
Mae Mind Canol a Gogledd Powys yn cynnig Gwasanaeth Cymorth Adfer 1:1 yn Sir Drefaldwyn, ac yn Sir Faesyfed (gweler isod).
Ffôn: 01597 824 411 or 01597 824 916Ebost: admin@mnpmind.org.uk
Ymweld â’r Wefan
Ponthafren
Elusen iechyd meddwl a arweinir gan aelodau ar gyfer pobl sy’n profi problemau iechyd meddwl, y rhai sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol neu wedi’u hallgáu, neu’r rhai sydd efallai’n dymuno gwneud ffrindiau newydd neu ennill sgiliau newydd. Mae Ponthafren yn cynnig dull o wella sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Darperir gweithgareddau mewn ymateb i geisiadau gan yr aelodaeth a gallant amrywio o sesiynau blasu mewn Sgiliau Bywyd, megis er enghraifft Rheoli Dicter, Meithrin Hyder a Sgiliau Cyfathrebu, i ddosbarthiadau mwy artistig, dosbarthiadau celf, crochenwaith, crefft a Gwneud Print Drypoint.
Cyfeiriad: Stryd Pont Hir, Y Drenewydd SY16 2DYFfôn: 01686 621586
Ymweld â’r Wefan
Prosiect Camau Bach Ail-ddeffro
Mae’r prosiect yn gweithio gyda phobl ifanc 16 – 25 oed i gynnig ymyriadau cynnar ar gyfer pobl sydd mewn perygl o broblemau iechyd meddwl, neu sydd eisoes yn dioddef o drallod meddyliol megis iselder neu bryder, neu sy’n niweidio eu hunain.
Cyfeiriad: 11 – 12 Stryd y Farchnad, Y Drenewydd, Powys SY16 2PQFfôn: 01686 722222
Ebost: help@rekindle.org.uk
Ymweld â’r Wefan
Sir Faesyfed
Mind Canol a Gogledd Powys
Elusen leol yw Mind Canol a Gogledd Powys sy’n rhedeg gwasanaethau yn Sir Faesyfed, Gogledd Sir Frycheiniog a Sir Drefaldwyn, sy’n cynnig cyngor a chymorth i bobl sy’n dioddef o drallod meddwl efallai, eu gofalwyr a’u teuluoedd. Mae’n rhedeg gwasanaethau estyn allan yn Llanfair-ym-Muallt, Tref-y-clawdd, Rhaeadr Gwy a Llanandras. Mae’n cynnig cwnsela, hunangymorth, gweithgareddau, gwasanaethau iechyd a llesiant.
Cyfeiriad: Mind Canol a Gogledd Powys, Siambrau’r Cilgant, Cilgant y De, Llandrindod LD1 5DHFfôn: 01597 824 411 neu 01597 824 916
Ebost: admin@mnpmind.org.uk
Ymweld â’r Wefan
Sir Frycheiniog
Mind Aberhonddu a’r Ardal
Yn cefnogi pobl yn y gymuned sy’n cael eu heffeithio gan afiechyd meddwl a thrallod. Estynnir croeso i unrhyw un i’n sesiynau ‘drws agored’ neu drwy apwyntiad. Rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau, cyrsiau a gweithdai iachus, gyda’r nod o gefnogi a grymuso pobl sy’n mynd drwy drallod meddyliol i symud tuag at iachâd. Mae gwasanaethau estyn allan ar gael yn Nhalgarth, Y Gelli Gandryll a Chrughywel.
Cyfeiriad: Mind Aberhonddu a’r Ardal, Tŷ Dewi Sant, 48 Free Street, Aberhonddu, Powys LD3 7BPFfôn: 01874 611529
Ebost: info@breconmind.org.uk
Ymweld â’r Wefan
Mind Ystradgynlais
Mae Mind Ystradgynlais yn gweithio i wella bywyd unigolion sy’n cael eu heffeithio gan drallod meddyliol – sy’n cynnwys yr unigolion eu hunain yn ogystal â gofalwyr, aelodau teulu, ffrindiau a chefnogwyr – a seilir ar y fframwaith ‘Llesiant’.
Cyfeiriad: 61 – 66 Penybryn, Ystradgynlais, Abertawe SA9 1JBFfôn: 01639 841 345
Ebost: info@minditv.org.uk
Ymweld â’r Wefan
Ledled Powys
Gwasanaeth Gwybodaeth Iechyd Meddwl Powys
Mae’r gwasanaeth yn bodoli i’ch helpu ceisio cael hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Er enghraifft:
- gwasanaethau iechyd meddwl yn eich ardal
- digwyddiadau, hyfforddiant a chyrsiau
- gyfleoedd a chymorth sydd ar gael trwy’r sector gwirfoddol
- newyddion lleol a chenedlaethol ym maes iechyd meddwl
- enghreifftiau’n unig yw’r rhain; gwnawn ein gorau i gael hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, ac os nad ydym yn gwybod, gwnawn ein gorau glas i gael hyd iddi ar eich rhan.
Gallwch ddysgu mwy am y gwasanaeth hwn drwy ein ffonio ar 01597 828649 neu drwy e-bostio mentalhealth@pavo.org.uk
Credu – Cysylltu Gofalwyr
Mae Credu – Cysylltu Gofalwyr (Gofalwyr Powys yn gynt) yn darparu gwasanaethau i ofalwyr o bob oed ar hyd a lled y Sir. Mae’n cynnig adborth i wasanaethau iechyd a chymdeithasol, barn gofalwyr, ac awgrymiadau o ran y gwasanaethau sydd ei hangen a’u heisiau ar ofalwyr i’w helpu gofalu am anwyliaid, ac fel unigolion.
Cyfeiriad: Credu, Marlow, Cilgant y De, Llandrindod, Powys LD1 5DLFfôn: 01597 823800
Ebost: info@credu.cymru
Ymweld â’r Wefan
Cyngor Cleifion Powys
Mae Cyngor Cleifion Powys yn eirioli ar ran cleifion ar wardiau seiciatrig. Nid yw’n gweithio ym maes eiriolaeth bersonol. Fforwm agored yw’r cyngor i gleifion drafod materion sy’n achosi pryder iddynt o ran eu cyfnod yn yr ysbyty, ac o ran ôl-ofal.
Ffôn: 01597 822191 (Owen Griffkin)Ebost: owen.griffkin@pavo.org.uk
Eiriolaeth annibynnol ar gyfer pobl hŷn
Gwasanaeth ledled Powys yw Age Cymru ym Mhowys ar gyfer pobl 60+ oed sydd angen help neu gymorth. Gall Age Cymru drefnu ymweld â chi yn eich cartref eich hun, yn yr ysbyty neu mewn cartref gofal/preswyl. Gwasanaeth cyfrinachol, a rhad ac am ddim yw hwn.
Ffôn: 01982 551918Ebost: advocacy@acpowys.org.uk
Ymweld â’r Wefan
Kaleidoscope Powys
Gwasanaeth ym maes camddefnyddio sylweddau i oedolion a phobl ifanc ym Mhowys yw Kaleidoscope Powys
Cyfeiriad: Mae swyddfeydd yn: Y Trallwng, Y Drenewydd, Llandrindod ac AberhondduFfôn: 01686 207111 (Dydd Llun - Gwener, 9am - 5pm) | 0808 808 2234 (tu allan i’r oriau hyn)
Ymweld â’r Wefan
Gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol Powys
Mae’r Gwasanaeth Eiriolaeth hwn ym Mhowys yn darparu gwasanaeth eiriolaeth cyfrinachol annibynnol am ddim i bobl gydag anawsterau iechyd meddwl. Bydd yn eich helpu i sicrhau y caiff eich llais ei glywed ym mha bynnag gyd-destun sy’n briodol ichi, yn cynnig cymorth mewn cyfarfodydd, gwrandawiadau, asesiadau ac adolygiadau anffurfiol neu ffurfiol. Hefyd mae eiriolwyr yn cael eu hyfforddi fel Eiriolwyr Galluedd Meddwl Annibynnol (IMCA) i gefnogi pobl sydd â diffyg galluedd meddwl i wneud penderfyniadau penodol, yn unol â Deddf Galluedd Meddwl 2005.
De Powys
Kirstie Morgan
Cyfeiriad: Ystafell 36, Neuadd Brycheiniog, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys LD3 7HRFfôn: 01874 615996 neu 07967 808 145
Gogledd Powys
Lynda Evans
Cyfeiriad: Fan Gorau, Ysbyty Sirol Maldwyn, Y Drenewydd SY16 LD2Ffôn: 07736 120 924
British Institute of Human Rights (BIHR)
Gellir lawrlwytho llawlyfr Sefydliad Prydeinig Hawliau Dynol (BIHR) ar Eiriolaeth Iechyd Meddwl a Hawliau Dynol yma.
Cyfle Cymru Out of Work Service (OoWS)
Kaleidoscope, ochr yn ochr â Hafal a Remploy Cymru sy’n darparu’r prosiect hwn a seilir ar Fentora gan Bobl debyg ichi. Gellir cymryd rhan yn y prosiect ar sail wirfoddol, a gall cleientiaid sy’n cael eu hatgyfeirio adael y rhaglen ar unrhyw adeg, heb unrhyw gosbau. Lawrlwytho taflen y prosiect.
Prosiect a seilir ar waith yw hwn, a’i nod yw cefnogi cyfranogwyr sy’n cael problemau camddefnyddio sylweddau neu broblemau iechyd meddwl, ac sydd ar hyn o bryd yn ddi-waith yn hirdymor neu’n anweithgar yn economaidd
.