Loading Events

« All Events

Gweithdy Gwrando, Codi Llais – NSPCCWYTHNOS DDIOGELU GENEDLAETHOL 2024

Tachwedd 11 @ 4:15 pm - 5:15 pm

Mae hanner miliwn o blant yn dioddef camdriniaeth ac esgeulustod bob blwyddyn yn y DU. Ond mae rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud I newid hynny. Gwyddom gyda’r gefnogaeth gywir gall pob plentyn gael ei gadw’n ddiogel. Gallwn atal camdrinaeth, a hyd yn oed ei atal rhag digwydd. Ond er mwyn gwneud hyn, mae angen inni gydweithio. Hyd yn oed os nad yw plant yn rhan fawr o’ch bywyd bob dydd, byddwch yn dal i rannu cymuned â nhw – ar eich stryd, wrth i chi deithio i’r gwaith neu yn y siopau. Mae gwybod sut i siarad ar eu rhan yn hanfodol.

 

Bydd ein hyfforddiant Gwrando, Codi Llais yn gwneud y canlynol:

  • eich helpu i ddeall sut i wrando a siarad ar ran plant
  • dangos pwy y dylech gysylltu â nhw os ydych yn pryderu am blentyn neu

angen cymorth eich hun

  • eich grymuso i gefnogi plant yn eich cymuned.

 

Cynulleidfa darged:

Mae’r gweithdai hyn yn rhad ac am ddim ac yn cael eu cyflwyno gan staff Ymgyrchoedd Lleol NSPCC

Cymru i aelodau’r gymuned sy’n 18 oed neu’n hŷn. Rydym yn gofyn i aelodau’r gymuned fynychu o

amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys ysgolion, gweithleoedd, a lleoliadau cymunedol, chwaraeon a

ffydd ac ati…

 

Beth fydd hyd y sesiwn a faint o bobl all fynychu?

Mae sesiynau fel arfer yn para rhwng 45 munud ac 1 awr gyda chyfle i holi cwestiynau a chael trafodaeth. Nid oes cyfyngiad ar nifer y bobl a all fod yn bresennol.

Archebwch eich lle

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 1 Tachwedd 2024

Details

Date:
Tachwedd 11
Time:
4:15 pm - 5:15 pm