Loading Events

« All Events

Delio Gyda Sgyrsiau Anodd

Tachwedd 12 @ 10:00 am - 1:00 pm

Dydd 1 – 12 Tachwedd 2024
Dydd 2 – 19 Tachwedd 2024
10 am – 1 pm | Ar-lein

Amcanion

Rhoi’r sgiliau a’r technegau angenrheidiol i chi ddelio gyda sgyrsiau anodd.

Cynnwys

Ydych chi’n ei chael yn anodd delio gyda sgyrsiau anodd yn eich swydd? P’un ai ydych yn weithiwr cymorth neu’n ymwneud ag aelodau o’r cyhoedd mae gweithwyr a gwirfoddolwyr yn y trydydd sector yn aml yn wynebu gwrthdaro yn eu gwaith bob dydd.

Wedi’i gyflwyno trwy Zoom bydd y cwrs 2 x 3 awr hwn yn eich arfogi â’r sgiliau a’r technegau angenrheidiol i chi ddelio gyda sgyrsiau anodd a rheoli gwrthdaro mae. Bydd y cwrs yn:

  • eich helpu i ddeall ac ystyried eich ymddygiad eich hun
  • edrych ar faterion yn ymwneud â diogelu
  • hybu’ch dealltwriaeth o bendantrwydd
  • darparu technegau i ddelio gyda sefyllfaoedd o wrthdaro heb fod yn fygythiol

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:

  • cydnabod eich ymddygiad eich hun a’r ffordd rydych yn ymateb mewn sefyllfaoedd amrywiol
  • deall sut i fod yn fwy pendant a rheoli ffiniau
  • defnyddio technegau i ddelio gyda sgyrsiau anodd

Ar gyfer pwy mae’r cwrs

Unrhyw un sydd angen delio gyda phobl yn unigol neu mewn grwpiau bychain e.e. gweithwyr cymorth, gweithwyr rheng flaen, gwirfoddolwyr.

Gweiadur

Pris tocyn haenog: £96-£140

I drefnu eich lle, cliciwch y ddolen isod.

Tocynnau  

 

 

Details

Date:
Tachwedd 12
Time:
10:00 am - 1:00 pm

Organizer

wcva
Phone
0300 111 0124
Email
training@wcva.cymru
View Organizer Website