Ymddiheurwn nad yw rhai tudalennau o’r wefan Gymraeg wedi eu cwblhau eto. Mae’r rhain yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd a byddant yn fyw yn fuan iawn.
We apologise that some pages of the Welsh site are not yet complete. These are currently under construction and will be live very soon.

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys sy’n cyllido Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys ar hyn o bryd i ddarparu:

  • Gwell gwybodaeth ar gyfer pawb am wasanaethau iechyd meddwl ym Mhowys.
  • Cefnogaeth i gynrychiolwyr ar ran dinasyddion wrth iddynt ymuno yn broses o wneud penderfyniadau strategol ar y bwrdd.
  • Rhwydweithio a rhannu arfer orau ymhlith sefydliadau iechyd meddwl a llesiant.

Yr enwau ar y tri maes gwaith yma yw: Gwybodaeth, Cyfranogiad ac Ymgysylltiad

Gwybodaeth

Jackie Newey sy’n arwain y Gwasanaeth Gwybodaeth Iechyd Meddwl.  Mae’r gwasanaeth hwn yn golygu y gall pobl a gweithwyr proffesiynol ffonio’r llinell gymorth Gwybodaeth Iechyd Meddwl ar 01597 822 191 opsiwn 4 i gael hyd i wasanaethau.  Maent hefyd yn gallu ebostio mentalhealth@pavo.org.uk i gael ymateb dros ebost.

Cyfranogiad

Y swyddog cyfranogiad sy’n recriwtio ac yn cefnogi dinasyddion sydd â phrofiad o wasanaethau iechyd meddwl i fynd i gyfarfodydd y Bwrdd Iechyd Meddwl, a gwneud penderfyniadau am wasanaethau Powys yn y dyfodol. Mae’r swyddog cyfranogiad hefyd yn rhedeg y Cyngor Cleifion, lle mae cleifiion mewnol ward Felindre yn Ysbyty Bronllys yn gallu siarad gyda dinasyddion annibynnol am eu profiadau ar y ward.

Ymgysylltiad
Clair Swales yw arweinydd y tîm Iechyd a Llesiant ar ran PAVO. Mae hi a Sue Newham yn hwyluso nifer o rwydweithiau ar gyfer sefydliadau trydydd sector, sy’n diweddaru pobl ac yn galluogi rhannu arfer dda.  Mae rhwydweithiau’n gyfrwng lle gall sefydliadau gwirfoddol cwrdd a siarad gyda gwasanaethau iechyd a’r cyngor er mwyn iddynt gydweithio’n fwy effeithiol.

Cwrdd â’r tîm

Mae staff sy’n gweithio fel aelodau o Dîm Gwybodaeth a Chyfranogiad Iechyd Meddwl Powys yn cael eu cyflogi a’u cefnogi gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys  (PAVO).