Ni yw eich ffocws ar gyfer gwybodaeth ym maes iechyd meddwl lleol.
Ni yw Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys. Os hoffech gysylltu â thimau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Addysgu Powys cliciwch YMA.
Iechyd a Chymorth ym Mhowys
Darganfod pa wasanaethau a chymorth sydd ar gael ym Mhowys ym maes iechyd meddwl, ble maen nhw a sut i gael mynediad atynt.
Gwella bywydau pobl…
Tu hwnt i’r meddygol
Mae ‘tu hwnt i’r meddygol’ yn ystyried y dewisiadau amgen i ddulliau meddygol wrth wella iechyd meddwl a llesiant; newid y cwestiwn sy’n tanategu gwasanaethau iechyd meddwl prif ffrwd o “beth sy’n bod arnat ti?” i “beth sydd wedi digwydd iti?”.
Trechu Stigma
Oes stigma’n gysylltiedig â phwnc iechyd meddwl? Ydych chi wedi dod ar ei draws? Ceir hyd i adnoddau a chymorth fan hyn, yn ogystal â syniadau, i helpu pawb i gael agwedd iachach tuag at iechyd meddwl.
Pum ffordd i lesiant
Cyfres o gamau yw’r Pum Ffordd i Lesiant, sy’n hybu llesiant pobl. Trwy gymryd y camau syml hyn bob dydd yn eich cartref neu’ch gweithle, gall arwain at wella iechyd meddwl
Therapi Gwybyddol Ymddygiadol
Bydd pawb yn cael ymatebion iechyd meddwl gwahanol trwy gydol eu bywydau, a gall siarad amdanynt fod yn fuddiol. Gellir darganfod ffyrdd i fod yn agored trwy ThGY a helpu eraill i ddeall yn well.
Profiadau bywyd
Profiadau bywyd yw eich gwybodaeth bersonol chi am y byd, a ddatblygwyd trwy gysylltiad uniongyrchol, ymarferol. Gellir dysgu sut i ddefnyddio eich profiadau bywyd i helpu siapio, cynllunio a chyflenwi gwasanaeth iechyd meddwl sy’n sicrhau taw pobl yw’r flaenoriaeth.
Adfer
Mae profiad pob unigolyn o adfer yn sgil iechyd meddwl yn wahanol. Gellir ystyried ystod o opsiynau adfer, o ddysgu neu rannu i gael hyd i gymortht.
Eich cysylltu â chymorth
Materion cyfreithiol
Eisiau darllen mwy am faterion cyfreithiol sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl? Gellir cyfeirio at y Mesur Iechyd Meddwl, cynlluniau, diogelwch a strategaethau fan hyn.
Cyngor Cleifion Powys
Fforwm agored yw CCP ar gyfer cleifion Powys sydd ar hyn o bryd yn treulio amser ar y ward seiciatrig yn Ysbyty Bronllys er mwyn trafod eu cyfnod yn yr ysbyty, ynghyd â materion sydd efallai’n peri pryder iddynt, ac ôl-ofal
Cyfeirlyfr Gwasanaethau
Cael hyd i wasanaethau yn eich cymuned chi
Eich cysylltu â ni
Cwrdd â’ch Cynrychiolwyr
Mae eich cynrychiolwyr ar gael i wrando a sicrhau y caiff lleisiau defnyddwyr/gofalwyr eu cynnwys wrth gynllunio gwasanaethau. Gellir dysgu pwy ydynt, a sut i gysylltu â nhw yma.
Bod yn Gynrychiolydd
Ydych chi wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl neu wedi gofalu am rywun sydd wedi eu defnyddio? Gellir dysgu beth mae bod yn gynrychiolydd yn ei olygu, sut i wella gwasanaethau iechyd meddwl sy’n cael eu cynllunio a’u cyflenwi ym Mhowys
Gwirfoddoli
Mae angen eich cefnogaeth, yn enwedig os oes gennych brofiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl neu wedi gofalu am rywun sydd wedi eu defnyddio. Gellir dysgu mwy am wirfoddoli fan hyn.
Adborth ar ein gwefan
Er mwyn rhoi’r wybodaeth orau bosibl ichi, yn y ffordd orau bosibl – mae angen eich cymorth arnom ni. Gellir rhannu eich meddyliau, adborth ac awgrymiadau yma.
Tanysgrifio
Eisiau cadw mewn cysylltiad ag a derbyn diweddariadau rheolaidd ar bynciau iechyd meddwl? Gellir tanysgrifio i dderbyn newyddion am Iechyd Meddwl ym Mhowys.
Eich diweddaru
Newyddion
Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2024 – mae’n bryd blaenoriaethu iechyd meddwl staff Mae
Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni yn atgof allweddol i gyflogwyr gefnogi lles staff nid cam tosturiol yn unig ydyw; mae'n hanfodol ar gyfer creu amgylchedd gwaith iach a chynhyrchiol. Gyda hynny mewn golwg, dyma bum strategaeth i gyflogwyr cyfrifol sydd am gymryd...
Blog Iechyd Meddwl Powys
Mental Health Awareness Week 2024 – Movement
13 May 2024