Y sesiwn
Mae Lisa yn rhiant niwrowahanol gyda theulu niwrowahanol. Mae hi hefyd yn gweithio gyda theuluoedd a chanddi dros ugain mlynedd o brofiad. Rhannwyd ei dealltwriaeth mewn cyhoeddiad yn ddiweddar, a oedd yn archwilio’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl amenedigol ac ADHD.
Ar gyfer y sesiwn hon bydd Lisa yn sôn am ei thaith fel unigolion, rhiant ac ymarferydd niwrowahanol ac yn siarad am sut mae niwrowahaniaeth yn gallu effeithio ar fywyd teuluol, gan amlygu’r rhwystrau a’r cryfderau mae hi wedi’u gweld ar hyd y daith.
Bydd testunau’r sesiwn yn cynnwys: rheoli anghenion gwahanol o fewn y teulu; sut i osgoi chwythu plwc; rheoli gwrthdaro. Bydd y sesiwn yn cynnwys amrywiaeth o awgrymiadau a strategaethau defnyddiol y gall rhieni eu defnyddio i gefnogi aelodau amrywiol teulu niwrowahanol (yn enwedig nhw eu hunain).
I gadw’ch lle yn rhad ac am ddim, defnyddiwch y ddolen hon:
(Sylwer: mae’r sesiwn hon i rieni a gofalwyr yn unig)