Loading Events

« All Events

Coleg Adfer Iechyd Meddwl ym Mhowys digwyddiad ymgysylltu

Ionawr 30 @ 11:30 am - 2:30 pm

Mae gennym 9 digwyddiad ymgysylltu ar y gweill i archwilio cael Coleg Adfer Iechyd Meddwl ym Mhowys, ac i drafod sut olwg hoffech fod arno.

Mae Coleg Adfer yn darparu cyrsiau i helpu pobl deall cyflyrau iechyd meddwl, sut i’w rheoli eu hunain neu sut i gefnogi rhywun arall.  Maen nhw’n agored i bobl sydd â heriau iechyd meddwl, y rhai sy’n eu cefnogi, boed yn gyflogedig neu’n ddi-dâl, staff iechyd a gofal cymdeithasol neu sefydliadau’r trydydd sector, a phobl o’r gymuned sydd am gefnogi eraill. Mae’r cyrsiau’n rhad ac am ddim ac wedi’u cynllunio a’u darparu gan weithwyr proffesiynol a phobl sydd â phrofiad o’r cyflwr. Bydd y cynnig terfynol ar gyfer y Coleg yn cael ei ddylanwadu gan eich syniadau a’ch dewisiadau.

Bydd digwyddiadau wyneb yn wyneb rhwng 11.30yb a 2.30yp, gan gynnwys cinio, te a choffi. Mae manylion y ddau ddigwyddiad ar-lein i’w gweld isod.

Dydd Iau 30ain Ionawr – Gwesty’r Greyhound – Llanfair-ym-Muallt
Dydd Mawrth 4ydd Chwefror – The Armoury, Y Trallwng
Dydd Iau 6ed Chwefror – Y Gaer, Aberhonddu
Dydd Mawrth 11eg Chwefror – The Elephant and Castle, Y Drenewydd
Dydd Iau 13eg Chwefror – Y Neuadd Les, Ystradgynlais
Dydd Mawrth 18fed Chwefror – MOMA, Machynlleth
Dydd Iau 20fed Chwefror – Metropole, Llandrindod

Dydd Mawrth 4ydd Mawrth – ar-lein – 2yp i 4yp
Dydd Iau 6ed Mawrth – ar-lein – 6yh i 8yh

Bydd digwyddiad cydgynhyrchu hefyd yn cael ei gynnal i ddefnyddio’r hyn yr ydym wedi’i glywed i gytuno ar yr hyn a fydd yn cael ei gynnig i geisio cyllid.
Bydd hyn rhwng 11.30yb a 2.30yp gan gynnwys cinio, te a choffi ddydd Mawrth 18fed Mawrth yn y Metropole, Llandrindod.

Mae gan bob digwyddiad niferoedd cyfyngedig felly bachwch eich lle cyn gynted ag y gallwch.  Os yw’r digwyddiad yn llawn, byddwch yn cael gwybod fel y gallwch ddewis lleoliad arall neu gael eich rhoi ar restr aros.  Rhaid bachu lle dim hwyrach nag wythnos cyn y digwyddiad.
I fachu lle, defnyddiwch y ddolen ar-lein yma

Details

Date:
Ionawr 30
Time:
11:30 am - 2:30 pm