Hyd 9, 2024

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni yn atgof allweddol i gyflogwyr gefnogi lles staff nid cam tosturiol yn unig ydyw; mae’n hanfodol ar gyfer creu amgylchedd gwaith iach a chynhyrchiol.

Gyda hynny mewn golwg, dyma bum strategaeth i gyflogwyr cyfrifol sydd am gymryd iechyd meddwl yn y gweithle o ddifrif.

 

 

1. Hyrwyddo Diwylliant o Gydbwysedd Rhwng Bywyd a Gwaith

Anogwch weithwyr i gymryd amser i ffwrdd pan fydd ei angen arnynt ac i ddatgysylltu’n llawn
yn ystod oriau nad ydynt yn gweithio. Cofiwch arwain drwy esiampl – dylai arweinwyr busnes
a rheolwyr fodelu’r ymddygiad hwn trwy gymryd seibiannau a gwyliau eu hunain, gan anfon
neges glir i weithwyr ei bod yn iawn blaenoriaethu lles personol.

2. Rhannu Adnoddau Iechyd Meddwl

Cynigiwch gymorth iechyd meddwl cynhwysfawr fel mynediad at wasanaethau cwnsela,
diwrnodau iechyd meddwl, a rhaglenni lles. Gwnewch yn siŵr bod gweithwyr yn gwybod
beth sydd ar gael a’u bod yn teimlo’n gyfforddus yn eu defnyddio. Rhannwch yr adnoddau
hyn yn rheolaidd i normaleiddio ceisio cymorth.

3. Galluogi Trefniadau Gweithio’n Hyblyg

Gall hyblygrwydd yn y gweithle leihau straen yn sylweddol a gwella iechyd meddwl.
Ystyriwch gynnig oriau gwaith hyblyg neu opsiynau gwaith o bell. Gall caniatáu i weithwyr
dylunio eu hamserlenni eu helpu nhw reoli cyfrifoldebau personol a lleihau gorflinder.

4. Caniatáu Deialog Agored am Iechyd Meddwl

Ceisiwch greu amgylchedd diogel lle mae gweithwyr yn teimlo’n gyfforddus yn trafod iechyd
meddwl heb ofni stigma. Gall cynnal gweithdai neu sesiynau hyfforddi sy’n addysgu staff ar
faterion iechyd meddwl ac yn annog sgyrsiau agored fod yn ddefnyddiol.

5. Cydnabod a Gwobrwyo Ymdrechion

Tynnwch sylw at waith caled a chyflawniadau eich gweithwyr. Gall cydnabyddiaeth reolaidd
hybu morâl a chyfrannu at amgylchedd gwaith cadarnhaol. Gweithredwch raglenni
cydnabyddiaeth, gall fod fel gwobrau ffurfiol neu gydnabyddiaeth syml mewn cyfarfodydd
tîm, i ddangos gwerthfawrogiad am ymdrechion eich tîm.

 

Yn anad dim, cofiwch nad tueddiad yn unig yw blaenoriaethu iechyd meddwl — mae’n
fuddsoddiad hirdymor yn lles eich gweithlu.

Os ydych chi’n gyflogwr sy’n gweithredu neu’n ychwanegu at adnoddau lles yn y gweithle,
gall GIG Cymru helpu’ch staff gyda mynediad at gyfres SilverCloud o raglenni iechyd
meddwl ar-lein, gan gynnig cymorth dan arweiniad ar gyfer gorbryder, straen, hwyliau isel,
pryderon ariannol a mwy. Maen nhw’n hollol rad ac am ddim ac nid oes angen atgyfeiriad
gan Feddyg Teulu.

Maent yn defnyddio dulliau sydd wedi’u profi’n glinigol yn seiliedig ar Therapi Gwybyddol
Ymddygiadol i herio meddyliau negyddol a gosod camau cadarnhaol.

Dysgwch fwy am y gwasanaeth yma

SilverCloud

I wneud cais am lyfrynnau a phosteri SilverCloud ar gyfer eich gweithle, e-bostiwch
silver.cloud@wales.nhs.uk