Mae’n hawdd gadael i les gilio i’r cefndir ymhlith holl bwysau’r gweithle, ond mae hunanofal yn hanfodol i ni ffynnu yn ein bywydau personol a phroffesiynol. Wrth i Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd dynnu sylw at gynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, dyma bum awgrym ymarferol i’ch helpu chi.
1. Gosod Ffiniau Clir
Gall rhannu eich amser gwaith ac amser i ymlacio helpu lleihau straen ac osgoi gorflinder.
Gosodwch oriau gwaith penodol a chadw atynt, ac osgowch wirio e-byst gwaith neu gymryd
galwadau tu allan i oriau gweithio.
2. Cymryd Seibiannau Rheolaidd
Gall bwrw ymlaen heb egwyl arwain at flinder ac yn y pen draw mygu cynhyrchiant.
Trefnwch seibiannau byr drwy gydol eich diwrnod a gwnewch amser i gamu i ffwrdd o’ch
desg i ymestyn neu fynd am dro. Gall seibiannau rheolaidd adnewyddu eich meddwl,
cynyddu eich ffocws, a helpu gwella lles cyffredinol.
3. Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar
Rheolwch straen drwy integreiddio technegau ymwybyddiaeth ofalgar yn eich trefn ddyddiol.
Gall technegau syml fel anadlu’n ddwfn, myfyrio, neu hyd yn oed ymarferion ymwybyddiaeth
ofalgar byr eich helpu chi aros yn gadarn a lleihau gorbryder. Ar yr un pryd, gallant hefyd
helpu rhoi hwb i’ch cynhyrchiant trwy wella’ch gallu i aros yn bresennol a chodi i heriau sy’n
gysylltiedig â gwaith.
4. Cyfathrebu’n Agored
Peidiwch ag oedi cyn trafod eich anghenion iechyd meddwl gyda’ch rheolwr neu adran
Adnoddau Dynol. Mae cyfathrebu agored yn meithrin amgylchedd gwaith cefnogol lle mae
gweithwyr yn teimlo’n gyfforddus yn mynegi eu pryderon.
5. Blaenoriaethu Hunanofal
Y tu allan i’r gwaith, blaenoriaethwch weithgareddau sy’n rhoi hwb i’ch lles. Gall hyn fod trwy
wneud ymarfer corff, treulio amser gydag anwyliaid, neu drwy ganolbwyntio ar hobïau, bydd
cymryd rhan mewn gweithgareddau hunanofal yn helpu ailwefru eich batris a chynnal
meddylfryd cadarnhaol.
Os ydych chi’n stryglo, gall GIG Cymru helpu gyda chyfres SilverCloud o raglenni iechyd
meddwl ar-lein, gan gynnig cymorth dan arweiniad ar gyfer gorbryder, straen, hwyliau isel,
pryderon ariannol a mwy. Maen nhw’n hollol rad ac am ddim ac nid oes angen atgyfeiriad
gan Feddyg Teulu.
Maent yn defnyddio dulliau sydd wedi’u profi’n glinigol yn seiliedig ar Therapi Gwybyddol
Ymddygiadol i herio sut rydych chi’n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn, gan ddisodli meddwl
negyddol gyda gweithredu cadarnhaol.
Gallwch elwa hyd yn oed os ydych chi’n teimlo ar eich gorau– archwiliwch raglen
SilverCloud ‘Gofod i Wydnwch’; a datblygu’r sgiliau i’ch helpu cynnal lles parhaol.
Cofrestrwch a darganfod mwy yma.
SilverCloud