Gor 24, 2024

Gofod o Orbryder yw’r drydedd raglen CBT i gael ei chyfieithu i’r Gymraeg, gan roi’r dewis a’r rhyddid i siaradwyr Cymraeg fynegi eu teimladau, eu meddyliau a’u hemosiynau yn eu dewis iaith.

 

“Rydyn ni’n hynod falch o lansio’r rhaglen hon yn Gymraeg. Mae darparu therapi dwyieithog yn flaenoriaeth allweddol i ni ac mae wrth wraidd ein penderfyniadau wrth i’r gwasanaeth barhau i dyfu. Mae’n gallu bod yn anodd bod yn agored a rhannu eich meddyliau a’ch teimladau, ac mae’n anoddach fyth os oes rhaid i chi ei wneud hyn eich ail iaith. Mae’n hanfodol ein bod yn chwalu’r rhwystr hwnnw ac yn rhoi’r gofod a’r cyfle i bobl ddefnyddio’r Gymraeg wrth lywio ein cynnwys therapiwtig,” meddai Fionnuala Clayton, rheolwr prosiect gwasanaeth CBT ar-lein GIG Cymru.

Mae ymchwil yn awgrymu bod bron i chwarter yr oedolion yng Nghymru yn teimlo’n orbryderus drwy’r amser neu’r rhan fwyaf o’r amser, tra bod 45% o oedolion sydd â theimladau o orbryder yn eu cadw’n gyfrinachol. Er bod rhywfaint o orbryder yn chwarae rhan ddefnyddiol ac iach wrth i ni ddelio â phroblemau ac wynebu heriau, gall fynd yn llethol ac yn y pen draw ein gwanhau os na chaiff ei drin. Gall stigma parhaus ynghylch materion iechyd meddwl ei gwneud hi’n anodd gofyn am help, ond mae rhaglenni therapi ar-lein GIG Cymru – sy’n cael eu darparu gan SilverCloud® – yn helpu chwalu’r rhwystrau at ofal. Mae’r rhaglenni rhyngweithiol yn dysgu sgiliau ymdopi ymarferol ar gyfer materion iechyd meddwl ysgafn i gymedrol a gellir eu cyrchu’n ddienw ar-lein – heb weld meddyg teulu nac ymuno â rhestrau aros – trwy unrhyw ddyfais symudol, llechen, gliniadur neu ddyfais bwrdd gwaith.

  • Mae’n cymryd 12 wythnos i’w cwblhau ac mae angen i ddefnyddwyr gwasanaeth ymrwymo at o leiaf 15 munud y dydd, 3-4 gwaith yr wythnos.
  • Caiff cynnydd ei fonitro gan ymarferwyr cymwys, sy’n darparu adborth bob pythefnos ac yn gallu uwchgyfeirio achosion mwy difrifol i gyrchu cymorth pellach.
  • 30,000 o bobl wedi defnyddio’r gwasanaeth – sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru – ers iddo gael ei dreialu ym Mhowys yn 2018.
  • Cafodd ei rhannu yng Nghymru ym mis Medi 2020 a Gofod o Orbryder yw’r ail raglen y gofynnwyd amdani fwyaf, gyda bron i 6000 o bobl yn cofrestru yn ystod y chwe blynedd diwethaf.

Y mae’r ddarpariaeth Gymraeg newydd yn cydymffurfio ag un o themâu Cymraeg 2050 – strategaeth Llywodraeth Cymru sy’n anelu at gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 – ac mae’n cyd-fynd â Mwy Na Geiriau, ei Fframwaith Strategol ar gyfer Hyrwyddo’r Gymraeg ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.


Astudiaeth achos – Cydlynydd CBT Ar-lein GIG Cymru Leah Williams

Mae Leah yn ddwyieithog ac ar gael ar gyfer cyfweliadau print a darlledu yn Gymraeg. Mae Leah yn un o 12 cefnogwr ar-lein hyfforddedig sy’n monitro ac yn rhoi adborth i ddefnyddwyr SilverCloud® Cymru. Cafodd ei magu mewn teulu o siaradwyr Cymraeg, yn siarad Cymraeg fel ei hiaith gyntaf.

“Rydw i wedi cael cyfoeth o brofiadau ym mhob agwedd ar ddiwylliant Cymru ers y diwrnod y cefais fy ngeni ac rwy’n teimlo’n falch iawn o fod wedi mynd i ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg. Cymerais hyn yn ganiataol iawn pan oeddwn i’n iau, ond erbyn hyn mae gen i werthfawrogiad llawer dyfnach o’r Gymraeg a Diwylliant a Hanes Cymru, yn ogystal â’r manteision ychwanegol o fod yn ddwyieithog.

“Roedd mynychu ysgol uwchradd Gymraeg yn golygu fy mod yn gallu siarad ag athrawon a staff ategol drwy gyfrwng y Gymraeg a gofyn am unrhyw gefnogaeth ychwanegol yn Gymraeg ac yna derbyn unrhyw gymorth ychwanegol yn y Gymraeg. Roeddwn i’n lwcus iawn i gael hyn eto yn y brifysgol. Unwaith eto, wrth ofyn am gymorth ychwanegol, teimlais yn gyfforddus i fynd at fy narlithwyr i drafod fy anghenion. Roedd cyfathrebu yn y Gymraeg hefyd yn cynnig lefel ychwanegol o gyswllt.

“Seicoleg yw un o’r cyrsiau mwyaf poblogaidd ym Mhrifysgol Bangor ac astudiais ran o’m cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Fe wnaethon ni astudio mewn grwpiau llai, gan olygu bod darlithoedd yn llawer mwy agos, gyda mwy o gyfle i drafod. Roeddwn i’n gallu mynegi fy marn a thrafod gyda myfyrwyr eraill drwy’r Gymraeg.

“Rwy’n credu fy mod i bob amser yn ei gymryd yn ganiataol wrth fynd i weld fy meddyg teulu, rydw i’n cael y fraint o weld meddyg sy’n siarad Cymraeg, ond pan ddaeth i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl, nid oedd hyn bob amser yn wir. Roedd fy ymarferwyr iechyd meddwl a’m cwnselwyr yn ddi-Gymraeg. Roedd hi’n anodd i mi fod yn agored a thrafod materion personol. Mae methu sgwrsio yn eich iaith gyntaf yn gallu bod yn ofidus, yn enwedig wrth siarad am bwnc sydd yn barod yn emosiynol.

“Pan roeddwn i’n siarad â chwnselydd Cymraeg, roedd cysylltiad therapiwtig yno’n syth gan ein bod ni’n rhannu hunaniaeth a dealltwriaeth ddyfnach o fy mhroblemau a’m hanghenion. Mae’n deimlad gwerth chweil fy mod bellach yn cael cynnig hwn i SilverCloud Cymru fel aelod Cymraeg o’r tîm cymorth ar-lein. Mae’n deimlad gwerth chweil fy mod bellach yn cael cynnig hwn i SilverCloud Cymru fel aelod Cymraeg o’r tîm cymorth ar-lein.

“Mae pobl yn gyflym i ddweud bod y Gymraeg yn iaith sy’n diflannu, ond y gwir amdani yw ei bod hi yma ac yn fyw.”

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/

Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/SilvercloudW

Dilynwch ni ar Facebook: https://www.facebook.com/SilverCloudWales