Beth yw stigma?
Ymateb cymdeithasol yw stigma sy’n nodi rhai nodweddion, yn eu gwerthuso fel rhai annymunol, ac yn dibrisio’r pobl sy’n meddu arnynt. Agnes Miles 1981
Mae diffiniadau geiriadur yn disgrifio stigma fel arwydd o warth neu’n waradwydd ar enw da rhywun.
Mae Goffman yn diffinio stigma yn “nodwedd sy’n hynod ddifrïol”.
Trechu stigma - ymgyrchoedd a dulliau gwaith
- “Salwch fel unrhyw beth arall”. Gweithgareddau sy’n cymryd yn ganiataol yr achosir stigma gan bobl nad ydynt yn sylweddoli taw salwch yw problemau iechyd meddwl yn debyg i unrhyw salwch arall, a chredu oni bai fod trallod yn cael ei ystyried fel rhan o salwch, bydd pobl yn beio’r sawl sy’n dioddef ohono am eu problemau eu hunain.
- “Model Anabledd Cymdeithasol”. Sef gweithgareddau sy’n defnyddio syniadau’r mudiad anabledd ehangach, sef y ‘model anabledd cymdeithasol’. Mae’n cynnig, yn hytrach na bod y broblem yw acho sy nam gwirioneddol i bobl gydag anableddau, mae’r rhan fwyaf o anawsterau yn deillio o’r ffordd y mae cymdeithas yn trefnu ei hunan.
- “Ymateb naturiol a normal i brofiadau bywyd”. Gweithgareddau a seilir ar y cysyniad fod problemau iechyd meddwl yn ymateb naturiol a normal i’r pethau erchyll sy’n gallu digwydd inni. Mae’r agwedd hon yn cymryd yn ganiataol fod sicrhau fod profiadau pobl yn ymddangos yn fwy dealladwy, yn helpu trechu stigma trwy alluogi pobl i gael mwy o to empathi. Mae tystiolaeth gynyddol nad yw hyd yn oed y problemau iechyd meddwl mwyaf difrifol yn deillio o enynnau diffygiol neu gemegion yn yr ymennydd (h.y. ‘afiechyd meddwl’).
Rhannu eich barn
Gadewch inni wybod eich barn trwy gysylltu â ni ar 01686 628 300 neu 01597 822191 neu drwy anfon ebost atom ar: mentalhealth@pavo.org.uk. Neu gallwch lenwi’r ffurflen i roi adborth cyfrinachol fan hyn.
Gweithgareddau - ymateb naturiol a normal i brofiadau bywyd
- Powys – Blog Iechyd Meddwl Powys. Mwy fan hyn.
- Cymru – A Little Insight – Pobl Ifanc o’r Voice Collective ddaeth at ei gilydd i greu’r ffilm fer hon i drechu stigma. fideo 2 funud
- Powys – Llyfr Dyfodol DIY – straeon 12 o bobl o Bowys. Mwy fan hyn.
Gweithgareddau – agwedd ‘Salwch fel unrhyw salwch arall’
Erthyglau ar Stigma
Stigma a Strategaeth Iechyd Meddwl Cymru
- Law yn Llaw at Iechyd Meddwl – Strategaeth Genedlaethol Cymru. Mwy fan hyn.