Cael mynediad at gysylltwyr cymunedol, cymorth cwnsela a chymorth yn y gweithle fan hyn.
Cysylltwyr Cymunedol
Ceir mynediad at wybodaeth ynghylch derbyn cymorth gwasanaethau iechyd meddwl ym Mhowys fan hyn.
Ceir mynediad at wybodaeth ynghylch sut i gael cymorth brys fan hyn.
Gallwch chwilio am wasanaethau’r Sector Gwirfoddol ar infoengine Powys; mae mynediad ato fan hyn.
Ceir mynediad at wybodaeth am gymorth yn y gweithle fan hyn.
Cymorth cwnsela
Diffiniad The British Association for Counselling and Psychotherapy:
‘Termau ymbarel yw cwnsela a seicotherapi sy’n cynnwys ystod o therapïau siarad. Maent yn cael eu cyflwyno gan ymarferwyr hyfforddedig sy’n gweithio gyda phobl dros gyfnod byr neu hir, i helpu ysgogi newid effeithiol neu i gyfoethogi llesiant.’
Sut i gael hyd i therapi siarad neu gwnsela ym Mhowys
Mae nifer o ffyrdd i gael hyd i gwnselwr neu therapydd ym Mhowys.
Cwnsela ar y GIG
Mae Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn darparu ar gyfer gwasanaethau cwnsela trwy eich meddygfa leol. “Bydd y Mesur yn sicrhau fod mwy o wasanaethau ar gael i’ch Meddyg Teulu eich atgyfeirio atynt os oes gennych broblemau iechyd meddwl megis pryder neu iselder. Bydd y gwasanaethau hyn, a fydd efallai’n cynnwys cwnsela, rheoli straen a phryder, ar gael naill yn eich meddygfa neu leoliad cyfleus arall, sy’n golygu y bydd yn haws eu cyrraedd.”
Darllen mwy fan hyn.
Silvercloud – ThGY ar-lein
Ym Mhowys, gallwch hunanatgyfeirio ar gyfer Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ar-lein a ddarperir gan SilverCloud. Gallwch ddysgu mwy a chofrestru fan hyn.
Cwnsela gan y sector gwirfoddol
Mae nifer o’r elusennau iechyd meddwl ym Mhowys yn darparu sesiynau cwnsela am ddim, trwy drefnu apwyntiad ymlaen llaw. Hwyrach y bydd cwnselwyr dan hyfforddiant yn darparu’r sesiynau hyn. Cysylltwch â’ch elusen iechyd meddwl leol i ddysgu mwy.
Mae’r dolenni perthnasol ar gael yma.
U&I Counselling Croesoswallt, sydd yn fudiad gwirfoddol hefyd, yn darparu gwasanaeth cwnsela y gallwch dalu amdano trwy rodd, ac awgrymir lleiafswm cyfraniad o £3 y sesiwn. Er y lleolir y gwasanaeth yn Lloegr, maent yn derbyn atgyfeiriadau, gan gynnwys hunan-atgyfeiriadau, o Bowys. Gallwch eu ffonio ar 07530 448 000 neu lawrlwytho taflen fan hyn.
Cwnsela sector preifat
Mae’r cwnselwyr hyn yn codi ffi am eu gwasanaethau. Yn aml, maent yn hysbysebu mewn cyfeirlyfrau cwnsela ar-lein, a/neu mae ganddynt eu gwefannau unigol.
Gallwch gal hyd i gwnselwyr yn eich ardal leol trwy chwilio’r cyfeirlyfrau.
Cymorth yn y gweithle
Asedau pwysicaf unrhyw sefydliad yw ei staff, ac mae sicrhau y caiff eich cyflogeion neu gydweithwyr eu trin mewn ffordd ystyriol yn rhan bwysig o gadw pobl yn ddiogel ac iach tra maen nhw yn eu gwaith. Mae nifer o sefydliadau’n hyrwyddo ystod o arferion i helpu hyfforddi a chefnogi cyflogwyr wrth wireddu’r nod yma.
Cyflogwyr Ystyriol
Gall fod yn anodd, a chymryd tipyn o amser i gael hyd i’r wybodaeth gywir ar yr amser iawn. Nod y cynllun Cyflogwr Ystyriol yw gwneud y dasg honno’n haws trwy gael popeth y mae angen ei wybod mewn un lle. Os ydych yn gyflogai neu reolwr atebol, mae popeth sydd ei angen i’ch cefnogi ar gael ar eu tudalennau fan hyn
Hefyd mae gwybodaeth ar gael ar hyfforddi i fod yn Gyflogwr Ystyriol yma.
Cymru Iach ar Waith
Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Caerdydd sy’n cyflenwi Cymru Iach ar Waith, i gefnogi trigolion Cymru i ddychwelyd i’r gwaith, ac aros yn y gwaith yn hirach trwy hyrwyddo iechyd a llesiant, cydbwysedd da rhwng gwaith a bywyd, a ffyrdd iach o fyw i helpu lleihau salwch ac absenoldeb. Gellir dysgu mwy yma.