Cynrychiolwyr unigol
Mae cydgynhyrchu’n rhan bwysig o sut y mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu cyflenwi ym Mhowys, ac un ffactor mewn perthynas â hyn yw grŵp o gynrychiolwyr sydd wedi naill ai defnyddio, neu sy’n gofalu am rywun sydd wedi defnyddio, gwasanaethau iechyd meddwl. Mae’r gwirfoddolwyr di-dâl hyn yn eistedd ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol a chenedlaethol, ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys cynrychiolwyr ar ran yr Heddlu, y Gwasanaeth Ambiwlans, gweithwyr meddygol proffesiynol, rheolwyr gofal cymdeithasol i oedolion a phlant Cyngor Sir Powys a grwpiau gwirfoddol
Mae’r cynrychiolwyr yno i sicrhau y caiff llais y defnyddiwr/gofalwr ei gynnwys wrth gynllunio gwasanaethau, ac maent ar gael drwy’r amser i wrando ar eich profiadau a’r problemau sy’n effeithio arnoch er mwyn rhoi adborth ar hyn i’r grwpiau partneriaeth. Gallwch gysylltu â’r cynrychiolwyr drwy e-bostio’r Swyddog Cyfranogiad ar mentalhealth@pavo.org.uk neu drwy ffonio 01597 822191.
Hefyd, os hoffech drafod fod yn gynrychiolydd eich huna, cysylltwch a Swyddog Cyfranogiad am fwy o fanylion.
Digwyddiadau cwrdd â’ch cynrychiolydd
Byddwn yn cynnal digwyddiadau rheolaidd i Gwrdd â’ch Cynrychiolydd ym Mhowys yn sgil ymlacio rheolau’r cyfnodau clo.
Sesiynau taro heibio anffurfiol iawn fydd y rhain, a bydd un o gynrychiolwyr Defnyddwyr Gwasanaeth Iechyd Meddwl yn bresennol. Meddai Sarah Dale, fydd yn bresennol yn y digwyddiadau hyn “Byddaf yn picio heibio Ponthafren yn y Trallwng a’r Drenewydd ar gyfer y digwyddiad ‘Cwrdd â’ch Cynrychiolydd’. Bydd yn gyfle i daro heibio a chael sgwrs gyda ni a rhannu eich profiadau o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl neu o ofalu am rywun sy’n eu defnyddio, er mwyn inni hyrwyddo lleisiau defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn well ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Bydd paned o de a bisgedi ar gael hefyd.”
Sally Houghton-Wilson
Fy enw i yw Sally ac rwyf wedi ymuno yn ddiweddar fel Cynrychiolydd Gofalwyr. Rwyf am wneud yn siŵr bod gan ofalwyr lais yn y modd y mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu cynllunio ym Mhowys gan y gallwn yn hawdd gael ein anghofio. Rwyf am ddefnyddio fy mhrofiadau i sicrhau rhywfaint o newid cadarnhaol a gwneud y gwasanaeth yn well i unrhyw un arall sy'n gorfod gofalu am annwylyn ag iechyd meddwl gwael. Rwy’n eithaf newydd yn y rôl ond rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymwneud â’r cynrychiolwyr eraill, a gobeithio cwrdd â gofalwyr eraill i glywed eu straeon.
Sarah Dale
Helô, Sarah Dale yw f’enw i.
Mae gen i Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (BPD), Anorecsia, iselder a phryder, sy’n arwain at niweidio fy hun. Fel defnyddiwr gwasanaeth, treuliais nifer o flynyddoedd yn ceisio cael diagnosis. Ers derbyn diagnosis rwyf wedi llwyddo i gael hyd i’r driniaeth fwyaf effeithiol ac wedi dysgu llawer mwy am fy niagnosis a fi fy hun, sydd wedi arwain at welliant yn ansawdd fy mywyd. Fwyf yn ofalwr ar gyfer aelodau fy nheulu sydd ag anghenion gwahanol.
Fel cynrychiolydd ar ran defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl Powys, rwyf yn mynd i gyfarfodydd a byrddau amrywiol, ar lefel leol a rhanbarthol, gyda’r nod o gynrychioli safbwynt defnyddwyr gwasanaeth a Phowys. Rwyf yn cyfleu unrhyw broblemau neu dueddiadau cyfredol, ac yn helpu siapio gwasanaethau neu lwybrau triniaeth newydd er mwyn sicrhau eu bod yn ‘barod ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth’.
Des i’n gynrychiolydd am nifer o resymau. Nid wyf eisiau i bobl eraill gael yr un profiadau â mi. Rwyf yn awyddus i helpu eraill i ddweud eu dweud a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned leol. Ac rwyf eisiau codi ymwybyddiaeth am y problemau sy’n bwysig imi, a’r problemau y mae trigolion Powys yn dod ar eu traws wrth geisio cael hyd i gymorth a chefnogaeth o ran problemau iechyd meddwl a chymdeithasol. Credaf yn gryf bod pob un ohonom yn gyfrifol am wneud yr hyn y gallwn i newid a gwella’r gwasanaethau iechyd meddwl sy’n cael eu defnyddio gan bawb.
Yn ystod fy nghyfnod fel cynrychiolydd rwyf wedi pwyso am fwy o gynrychiolaeth gan y sawl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Hefyd mwy o ffyrdd i’r cyhoedd allu roi adborth ar broblemau neu ganmoliaeth o ran eu profiadau personol nhw er mwyn i gynrychiolwyr cynrychioli’r gymuned yn well, megis ffurflenni adborth ar-lein (gan gynnwys dolen) a dyddiau cwrdd â’ch cynrychiolwyr. Hefyd rwyf wedi creu ac wedi datblygu sesiynau ymwybyddiaeth ar thema hunan-niweidio dan arweiniad defnyddwyr gwasanaeth. Datblygwyd y rhain yn wreiddiol ar gyfer Unedau Mân Anafiadau a staff iechyd meddwl. Mae sefydliadau iechyd meddwl gwirfoddol a staff gwasanaethau cymdeithasol a gofalwyr maeth hefyd wedi mynychu’r sesiynau. Mae pawb sy’n dod i’r sesiynau’n derbyn rhuban oren - felly gwyliwch allan amdanynt. Mae fy ngwaith ym maes hunan-niwed wedi arwain at ddod yn aelod o Fwrdd Atal Hunanladdiad a Hunan-Niwed Canolbarth a Gorllewin Cymru, prosiect ymchwil ledled Cymru. Pwy a ŵyr beth ddaw nesaf.
Fel cynrychiolydd mae gen i fwy o werthfawrogiad ar gyfer ein staff. Maen nhw’n teimlo’r un mor rhwystredig â ni gyda’r gwasanaeth ar adegau. Fel defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, teimlaf fod angen inni atgoffa ein hunain taw pobl yw ein staff hefyd, ac maent yn gwneud eu gorau glas gyda’r adnoddau sydd ar gael iddynt.
Anfonwch ebost at Sarah ar sarah.dale@mhreps.org.uk
Darllen erthygl Sarah ar Anhwylder Personoliaeth Ffiniol, a ysgrifennwyd ar gyfer Mis Ymwybyddiaeth BPD ym mis Mai 2021.
John Lilley
Helô John Lilley ydw i.
Derbyniais i ddiagnosis anhwylder deubegynol yn 2013 a chyn hynny, gydag iselder clinigol o ganlyniad i niwrolawdriniaeth wnaeth newid fy mywyd yn 2000. Ar ôl treulio cyfnod o dri mis fel claf ym Mronllys, a mynd i gyfarfodydd y Cyngor Cleifion yn ystod y cyfnod hwnnw, penderfynais, ar ôl imi wella, y buaswn yn ymuno â Chyngor Cleifion Powys fel gwirfoddolwr. Credaf i hyn fy helpu i wella, a rhoddodd hwb i’m hunan-barch a’m hyder.
Ar ôl gwirfoddoli am dros 5 mlynedd, des yn Gynrychiolydd Defnyddwyr Gwasanaeth Iechyd Meddwl yn 2021 oherwydd fy mod yn teimlo y byddai fy mhrofiad fel defnyddiwr gwasanaeth, ac fel rhywun gyda phrofiad personol o broblemau iechyd meddwl, yn golygu y gallaf siarad ar ran a cheisio gwella mynediad a gofal o fewn y gwasanaethau iechyd meddwl.
Yn ystod fy nghyfnod fel cynrychiolydd, rwyf hefyd wedi ymuno â Fforwm Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru i gynrychioli Powys. Fforwm cenedlaethol yw hwn sy’n cwrdd yn rheolaidd ac yn adrodd i Lywodraeth Cymru ar broblemau sy’n effeithio ar ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ar lefel leol. Hefyd rwyf wedi bod yn aelod o fforwm Gofal Argyfwng Powys sy’n goruchwylio cyflenwi Concordat Gofal Iechyd Meddwl Argyfwng ym Mhowys. Mae’n mesur effeithiolrwydd o safbwynt sut mae Powys yn delio gyda phobl mewn Argyfwng Iechyd Meddwl.
Gallwch e-bostio John ar john.lilley@mhreps.org.uk
Rhydian Parry
Fy enw i yw Rhydian Parry ac rwyf yn gynrychiolydd ar ran defnyddwyr gwasanaeth ar gyfer y bwrdd partneriaeth yma ym Mhowys. Ges i ddiagnosis anhwylder deubegynol yn 2002 pan roeddwn yn 17 oed, a hynny yn ystod cyfnod difrifol iawn. Rwyf wedi treulio cyfnodau yn yr ysbyty oherwydd fy nghyflwr nifer o weithiau ers hynny, a phenderfynais ddod yn gynrychiolydd oherwydd fy mhrofiadau yn yr ysbyty, ac o ran y ’system’ yn gyffredinol. Roeddwn yn awyddus i geisio helpu gwasanaethau iechyd meddwl er gwell, trwy ddefnyddio fy mhrofiadau i a rhai defnyddwyr gwasanaeth eraill. Peth gwych yw cael y cyfle hwn, ac ar y cyfan, rwyf yn teimlo fod pobl yn gwrando arnaf ac yn fy mharchu ar y bwrdd. Credaf ein bod yn gwneud gwahaniaeth, er mae’n cymryd llawer o amser i newid pethau ar adegau.
Swydd Wag
Mae gennym swydd wag ar gyfer cynrychiolydd gofalwyr newydd sydd yma.
Ffurflen Adborth
Ydych chi’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Addysgu Powys?
Mae cynrychiolwyr unigol yn annog pobl i roi rhywfaint o adborth am eu profiad o’r gwasanaethau hyn.
Gallwch gael mynediad at y ffurflen adborth hon ar-lein YMA.
Cylchlythyr Arbenigwyr trwy Brofiad
Dros y 2 flynedd diwethaf, mae PAVO a chynrychiolwyr unigol wedi casglu manylion pobl sydd â diddordeb mewn bod yn ‘Arbenigwyr trwy Brofiad’. Hyd yma, mae dros 50 o bobl wedi mynegi diddordeb, ac rydym yn ymwybodol na fydd gennym efallai digon o gyfleoedd i roi cyfle i bob ymatebwr gymryd rhan mewn cynllunio a chyflenwi gwasanaethau.
Rydym yn delio gyda hyn trwy ddosbarthu cylchlythyr rheolaidd, sy’n casglu cyfleoedd cydgynhyrchu cyfredol, ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, a thrwy dynnu sylw at waith a wneir gan y cynrychiolwyr presennol. Wrth symud ymlaen, byddem yn hoffi gweld mwy o bobl yn chwarae rhan weithgar yn y gwaith a wneir gan gynrychiolwyr unigol, a darparu dealltwriaeth drwyadol o agweddau a phrofiadau pobl o wasanaethau iechyd meddwl, er mwyn gallu eu defnyddio mewn cyfarfodydd o fyrddau partneriaeth.
Experts by Experience newsletter December 2023
Experts by Experience newsletter September 2023
Experts by Experience newsletter July 2023
Experts by Experience newsletter June 2023
Experts by Experience newsletter April 2023
Experts by Experience newsletter October 2022
Experts by Experience newsletter July 2022
Experts by Experience newsletter April 2022
Experts by Experience newsletter November 2021
Experts by Experience newsletter April 2021